The Eco Village
 
       
   

Cymuned

 

Pan gyflwynwyd y cynlluniau ynghylch prosiect eco-bentref Lammas i'r cymunedau lleol yn ôl yn 2006, bu'r ymateb yn gymysg iawn.

Trwy gydol y broses gynllunio (2007 – 2009), gwelwyd Lammas yn mabwysiadu ymagwedd dryloyw a drws agored i bobl leol.  Er hyn, roedd y datblygiad yn bwnc llosg yn lleol, gan ddenu gwrthwynebiad croch a chefnogaeth frwd.


Yn ystod yr haf 2010, estynnodd Lammas wahoddiad i bobl leol ymweld â'r prosiect i weld y datblygiad drostynt eu hunain.  Penderfynodd oddeutu 1100 o bobl fanteisio ar y gwahoddiad, a chynigiwyd teithiau o gwmpas y safle iddynt yn rhad ac am ddim.

Isod, gwelir dogfen sy'n nodi manylion yr adborth a gafwyd gan y sawl a fu'n ymweld â'r prosiect yn ystod 2010

 

 

lammas schools event


 
   

 

ffurlflenni 2010

Cliciwch ar yr adroddiad i'w ddarllen.

 

 

Mae Lammas o'r farn bod ei ddatblygiad eco-bentref yn ased i gymunedau lleol.

Mae'r manteision yn cynnwys:

 

Datblygiad economi lleol llewyrchus wedi'i seilio ar y tir.  Mae'r eco-bentref yn bwriadu cyflenwi ystod fawr o fwyd organig ffres, yn ogystal â chrefftau traddodiadol ac arloesol ar gyfer y gymuned leol.

Bydd y prosiect yn creu rhwydwaith o lwybrau troed caniataol ar draws y safle, gan sicrhau bod y tir yn agored i gerddwyr.

Bydd yr anheddiad yn brydferth.  Bydd yr adeiladau yn gweddu i'r amgylchedd o'u cwmpas a bydd yn tir yn cynnal ystod eang o gnydau a bywyd gwyllt.

Bydd datblygiad yr eco-bentref yn cynorthwyo'r ysgolion gwledig lleol trwy anfon eu plant yno a hefyd, trwy gynnig cyfleoedd addysgol ar y safle.

Mae'r datblygiad yn bwriadu cynnal cynllun compostio cymunedol a bws mini leol.

 

 

 

 

Mae Lammas wedi ymrwymo i weithgarwch integreiddio cymunedol lleol:

climate change event, Narberth lammas at the blue rock festival

Digwyddiad ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd, Arberth, 2008            Gwyl y Garreg Las, Llanfyrnach, 2008              

 

lammas guided tour april 2010  lammas schools open day june 2010

Taith Lammas, Ebrill 2010                                             Diwrnod agored Lammas ar gyfer Ysgolion, Mehefin 2010

 

   

                           

 
   

                              

 
     
     
     
   

     
     
     
     
     
     
 
    > Eco Village - Introduction > Tir y Gafel > Tir Teg> Planning > News
SITE MAP
Home   > The Hub > Visiting > Courses - Products > Community
> Get Involved - Introduction > Buy a Share > Become a Friend >Volunteer > Contact
    > Low Impact Living - Introduction > Research > Gallery > Links
© lammas 2011