Gwasanaethau
Bydd yr Eco-bentref yn llwyr annibynnol o bob gwasanaeth prif gyflenwad. Bydd yr holl ddwr yn tarddu o’r safle gan ddefnyddio cyfuniad o ffynnon sydd eisoes yn bod ar gyfer dwr yfed a chynaeafu dwr glaw o’r toeau. Bydd yr holl drydan yn cael ei gynhyrchu ar y safle gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Yn ffodus mae system tyrbin dwr yn bodoli eisoes ar y safle'r mae Lammas yn bwriadu ei adnewyddu. Bydd yr holl wastraff organig yn cael ei gompostio ar y safle gan ddefnyddio cyfuniad o doiledau compost, abwydfeydd a thomenni compost. Tyfir tanwydd, ar ffurf helyg coedlannau a gwair eliffant, ar y safle.
Cynhaliaeth
Mewn cytundeb â Pholisi Cynllunio Sir Benfro ar Ddatblygiad Effaith Isel, bydd angen i breswylwyr arddangos eu bod yn sylweddol ddiwallu’u hanghenion cartref yn uniongyrchol o’r tir. Yn ymarferol, golyga hyn y bydd angen i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith weithio’r tir i’w lawn botensial. Cyniga preswylwyr Lammas amrywiaeth o fywoliaethau’r tir gan gynnwys crefftau coetir, garddwriaeth, planhigfeydd, anifeiliaid a chrefftau gwlân.

Cynhaliaeth seiliedig ar dir
Trafnidiaeth
Bydd yr anheddiad yn monitro a rheoli pob cerbyd a fydd yn defnyddio’r safle. Bydd cynlluniau rhannu ceir mewn lle a chyfyngiadau ar berchenogaeth ceir preifat. Bydd pob trosglwyddiad nwyddau yn cael ei gyd-drefnu er mwyn lleihau traffig. Anogir ymwelwyr i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a bydd Lammas yn ariannu gwasanaeth bws mini at drefi lleol ac oddi wrthynt.
Strwythur
Rheolir y prosiect gan Fenter Effaith Isel Lammas, cydweithfa gofrestredig o dan y Ddeddf Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus. Mae cynllun rheoli cynhwysfawr wedi’i greu sy’n trefnu sut bydd y prosiect yn cael ei sefydlu a’i reoli.
Mewn gwirionedd prydlesi amaethyddol fydd y tyddynnau fydd ynghlwm ag anghenion a nodir gan y cynllun rheoli. Felly bydd amcanion y prosiect yn cael eu sicrhau yn yr hirdymor. Bydd yr anghenion yn cynnwys materion megis cynhaliaeth, trafnidiaeth, gwasanaethau a monitro.

model both y gymuned
Both y Gymuned a’r Wersyllfa
Bydd adeilad both y gymuned hefyd yn gweithredu fel canolfan weinyddol a chymdeithasol i’r datblygiad. Bydd yn gartref i’r swyddfa, yr ystafell gyfarfod a’r caffi. Bydd y staff amrywiol wedi’u lleoli yma. Bydd yr adeilad hefyd yn gweithredu fel both gwasanaeth i’r wersyllfa dymhorol gyfagos. Rôl sylfaenol y wersyllfa yw darparu llety i westeion gweithgar ac i bobl sy’n mynychu cyrsiau.
Dylunwyd Both y Gymuned gan y pensaer Robin Campbell o Air_Architecture. Mae’r adeilad yn strwythur byw soffistigedig a fydd yn arddangos technoleg adeiladau effaith isel ar eu gorau.
Ymchwil
Mae Lammas yn barod wedi comisiynu nifer o adroddiadau sy’n archwilio’r safle a’r gymdogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys arolwg cynefin a rhywogaethau, adroddiad daeareg, arolwg pridd, dadansoddiad economi lleol a thraethodau hanesyddol. Gyda’r cefndir yma mae Lammas yn bwriadu mesur cynnydd y prosiect yn nhermau ei gyfraniad amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Helygen gwau
Amaethyddiaeth
Mae’r bobl a ddewiswyd am gam cyntaf y prosiect wedi datblygu cynlluniau wedi’u hymchwilio yn drylwyr ar gyfer eu cynhaliaeth. Yn ogystal â tharddu tanwydd, dwr, trydan a bwyd o’r safle, bydd y naw ty hefyd yn rhedeg busnesau ffermio bach gan gynhyrchu amrywiaeth eang o nwyddau o ansawdd uchel gan gynnwys cnau cyll, ham mwg, ffrwythau meddal, crefftau pren, llysiau a bwydydd wedi’u coginio. Caiff y cynnyrch eu marchnata drwy amryw o allfeydd gan gynnwys siopau lleol a stondin marchnad Lammas.
Tir comin
Bydd rhai agweddau o’r prosiect yn cael eu rheoli yn gyffredinol. Mae yna ardal o goetir llydanddail yn bodoli ar y safle a fydd yn cael ei diogelu o achos gwerth y bywyd gwyllt. Bydd y coetir coniffer sy’n bodoli eisoes yn cael ei reoli a’i gynaeafu fel adnoddau ar gyfer adeiladu. Yn ogystal fe fydd porfeydd cyfrannol ac ardaloedd cnwd tanwydd ynghyd a phwll melin a llain bentref.

Pwll melin
Monitro
Bydd y prosiect yn creu adroddiad blynyddol a fydd yn gwerthuso’i gynnydd drwy ddefnyddio mesurwyr perfformiad megis asesiadau ôl-traed ecolegol, niferoedd siwrneiau cerbydau, iechyd pridd a chyfrifiadau cynhyrchedd amaethyddo.
Y Weledigaeth
Bwriad Lammas yw sefydlu esiampl lwyddiannus o ddatblygiad effaith isel, gan ddarparu adnoddau addysgiadol yn arwain y ffordd ar gyfer datblygiadau gwledig llwyr gynaliadwy yn y dyfodol. Dyluniwyd y prosiect i’w redeg ar egwyddor meithrin parhaol. Bydd y tir yn cael ei ddatblygu er mwyn gwella synergedd y cynefinoedd gwahanol ar hyd a lled y safle, gan ehangu bioamrywiaeth ar yr un pryd gan arwain at gynnydd mewn cnwd o’r tir ond gan ddal i fod yn gynaliadwy. Lle mae porfeydd amaethyddol diraddiedig ar hyn o bryd, bwriada Lammas greu tirwedd fyw a ffrwythlon.
Diddordeb mewn bywyd effaith isel?
Os oes gennych ddiddordeb mewn byw yn yr anheddiad yma, neu i greu eich prosiect effaith isel eich hun, y lle gorau i ddechrau yw drwy ymuno â Lammas. Fel hyn byddwch yn gallu cael gwybodaeth a chyngor ar gynllunio, ymchwil, logisteg a byddwch yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf a newyddion am brosiectau Lammas.
Am fwy o wybodaeth ar brynu cyfran ac ymuno â Lammas cliciwch yma
Am wybod mwy?
|