Datblygiad Effaith Isel
“Mae datblygiad Effaith Isel yn un sydd, drwy ei effaith amgylcheddol negatif isel, naill ai’n ehangu neu ddim yn cael lleihad sylweddol ar safon amgylcheddol.”
Darpara ddatblygiad Effaith Isel gyfle digynsail i ailboblogi cefn gwlad drwy bobl sy’n ymroddedig i fywyd yn seiliedig ar dir ac sy’n ymwybodol o’r amgylchedd.
Bwriada Lammas arddangos ei bod yn bosib byw bywyd modern heb gost i’r ddaear. Mae bodau dynol, drwy fyw ar y tir, yn gallu datblygu perthynas gyd-fuddiol gyda’r byd naturiol sy’n gallu cefnogi bywyd gwallt a diwylliant dynol.
Rydyn ni, fel bodau dynol, yn ddibynnol ar y ddaear am ein hanghenion. Rydyn ni’n rhan gynhenid o we bywyd, yn wir rydyn ni mewn safle breintiedig. Gyda stiwardiaeth dda mae’r potensial ar gyfer amrywiaeth a digonedd yn enfawr. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy uno rheolaeth oleuedig o’n byd naturiol a’i hintegreiddio gyda rheolaeth y tir i ddiwallu ein hanghenion. Gofynna hyn am gysylltiad personol a chyfarwydd gyda’n hamgylchfyd, ac i bobl fyw a gweithio gyda’r rhythmau naturiol a’r cylchredau sy’n ffurfio’n byd.
Polisi Effaith Fechan
Mae polisi cynllunio newydd Sir Benfro ar Ddatblygiad Effaith Isel (polisi 52) yn torri tir newydd yn ei ddull o ddatblygu cynaliadwy yng nghefn gwlad.
I gysylltu â gwefan Cyngor Sir Penfro a gweld y polisi, cliciwch yma

Does dim ymgyrchoedd ar hyn o bryd
|